Boris Johnson
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi galw am gefnu ar bolisi’r glymblaid o dorri nôl ar nifer yr heddweision ar draws Prydain.
Dywedodd y Ceidwadwr blaenllaw fod y terfysgoedd wedi “gwanhau’r ddadl” o blaid torri arian yr heddlu.
Mae disgwyl i tua 16,200 o swyddogion yr heddlu golli eu swyddi o ganlyniad i’r toriadau ariannol.
Roedd 16,000 o swyddogion yr heddlu ar strydoedd Llundain er mwyn atal rhagor o derfysg yno neithiwr, ond lledodd y trais i ddinasoedd eraill ar draws Lloegr.
Daw sylwadau Boris Johnson ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, fynnu y byddai’r llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r toriadau ariannol.
Maen’n mynnu y gellid torri’n ôl drwy leihau biwrocratiaeth a chael gwared ar wastraff yn hytrach na gostwng nifer yr heddweision sydd ar y rheng flaen.
Ond mynnodd Boris Johnson ei fod yn bryd cefnu ar bolisi’r blaid.
“Os ydych chi’n gofyn i fi a oes yna ddadl o blaid torri cyllideb yr heddlu yna fy ateb i fyddai ‘na’,” meddai Boris Johnson wrth raglen Today Radio 4.
“Roedd y ddadl o blaid torri yn un bregus iawn ac mae wedi ei wanhau ymhellach. Nid dyma’r amser i dorri’n ôl ar nifer yr heddweision,” meddai.
Mae Boris Johnson yn gobeithio cael ei ail-ethol yn Faer Llundain y flwyddyn nesaf.
“Mae’n anodd credu fod pobol yn Llundain yn ymddwyn heb unrhyw gywilydd na pharch at yr heddlu,” meddai.
Dywedodd fod angen i oedolion a’r heddlu gael “yr hawl i fod yn awdurdodol” â phobol ifanc.