Stadiwm Wembley
Mae gêm gyfeillgar Lloegr yn erbyn yr Iseldiroedd yn Wembley nos Fercher wedi ei gohirio am y tro yn sgil y terfysg yn Llundain.
Cadarnhaodd yr FA y penderfyniad ar eu gwefan y bore yma. Mae gemau Cwpan Carling Charlton, West Ham, Crystal Palace a Dinas Bryste hefyd wedi eu gohirio.
Lledodd y terfysg dros nos i nifer o ddinasoedd eraill ym Mhrydain, gan gynnwys Birmingham, Bryste, Leeds, Lerpwl a Nottingham.
Mae hynny wedi arwain at bryderon y gallai nifer fawr o gemau agoriadol tymor newydd yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth gael eu heffeithio.
Does yna ddim cynlluniau eto i atal gêm Cymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd nos yfory.
Mae amheuaeth a fydd gêm Tottenham yn erbyn Everton yn yr Uwch Gynghrair yn cael ei chynnal Ddydd Sadwrn.
Gwadodd Scotland Yard adroddiadau eu bod wedi gofyn i holl brif ddigwyddiadau’r penwythnos yn y Brifddinas gael eu gohirio, gan fynnu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn lleol.
Ond roedd datganiad ar wefan Clwb Pêl-droed West Ham yn awgrymu i’r gwrthwyneb.
“Cafodd y clwb wybod y bydd holl brif ddigwyddiadau Llundain yn cael eu haildrefnu oherwydd yr angen i gryfhau presenoldeb yr heddlu mewn mannau eraill,” meddai’r clwb.
Does dim sôn wedi bod hyd yn hyn am ad-dalu pris tocynnau sydd eisoes wedi’u gwerthu ar gyfer y gemau a gafodd eu gohirio.