Rio Ferdinand
Mae pêl-droediwr Manchester United yn honni bod gwasnaethau diogelwch yr Unol Daleithiau wedi ymyrryd â’i gyfri’ Twitter, wedi i rai o’i ffotograffau o’r tu mewn i’r Ty Gwyn gael eu dileu oddi ar y we.

Roedd Rio Ferdinand wedi llwytho’r lluniau i’w dudalen Twitter, a dydi o ddim yn deall sut eu bod nhw wedi cael eu dileu oddi yno mor gyflym.

Roedd carfan Manchester United wedi ymweld â’r Ty Gwyn ddydd Iau, fel rhan o’u taith o gwmpad yr Unol Daleithiau cyn dechrau’r tymor.

Wrth iddyn nhw gael eu hebrwng o gwmpas cartref Arlywydd America, roedd Ferdinand wedi trydar: “Whoa….some1 has got into my phone + taken down my pics off twitter….this is deep…is jack Bauer in Washington?!”

Roedd un o’r ffotograffau a gafodd eu dileu yn arddel y capsiwn “the security needs beefing up here at the White House….!!,” ac fe ddywedodd Rio Ferdinand yn ddiweddarach, fod ei lun wedi ei ddileu “quick, rapido, sharpish, fast”.

Fe adawyd y lluniau o Rio Ferdinand a’i gyd-chwaraewyr yn bwyta bisgedi, ar-lein.