Mae newyddiadurwyr y BBC yn bwriadu cynnal streic 24 awr am hanner nos heno, mewn gwrthwynebiad i gynlluniau’r BBC i ddiswyddo staff.
Mae arweinwyr undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i nifer fawr o’u haelodau gadw at y streic.
Fe fydd aelodau’r undeb hefyd yn creu llinell piced tu allan i stiwdios a swyddfeydd y BBC ar draws Prydain.
Mae’r undeb wedi rhybuddio y bydd y streic yn achosi “anrhefn fawr” i raglenni radio a theledu.
Mae llefarydd ar ran y BBC wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig fod Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn bwriadu streicio,” a’u bod yn “ymddiheuro i’n cynulleidfa am unrhyw broblem ar ein rhaglenni.”
Ond mae ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Michelle Stanistreet, wedi dweud ei fod yn “gywilyddus” bod y BBC wedi “pryfocio” aelodau i streicio dros lond dwrn swyddi.
Y BBC ‘wedi gwrthod trafod’
Mae aelodau’r undeb wedi pleidleisio o blaid y streic heno, mewn protest yn erbyn diswyddiadau gorfodol gan y BBC.
Mae’r undeb yn honni eu bod nhw wedi cynnig sawl cyfaddawd cyn streicio, ond fod rheolwyr y BBC wedi eu wfftio yn syth.
“Mae gymaint o bobol eisiau gadael y BBC, does dim rhaid iddyn nhw ddiswyddo unrhyw un yn orfodol,” meddai.
“Mae gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr bolisi sefydledig o wrthod diswyddiadau gorfodol, ac mae’n amlwg bod ein haelodau ni yn y BBC yn barod i amddiffyn eu cyd-weithwyr.
“Mae swyddi yn cael eu harbed a’u creu o hyd ar lefel reoli, ond mae newyddiadurwyr yn colli eu swyddi.”
Ond yn ôl llefarydd ar ran y BBC, does dim diben streicio.
“Ni fydd gweithredu diwydiannol yn newid y ffaith fod y BBC yn wynebu’r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol, yn sgîl toriadau sylweddol mewn grantiau Llywodraeth.
“Fe fyddwn ni’n parhau i geisio osgoi diswyddiadau gwirfoddol, ond o ystyried faint o swyddi y mae angen i ni gael gwared ohonyn nhw, fe fyddai fwy neu lai yn amhosib osgoi diswyddiadau gorfodol.”