Cynyddodd yr arian yr oedd Tywysog Cymru yn ei gael o’r pwrs cyhoeddus bron i 18% y llynedd, yn ôl cyfrifon swyddogol gyhoeddwyd heddiw.

Hawliodd Charles £1,962,000 o arian y trethdalwyr y llynedd o’i gymharu â £1,664,000 yn 2009.

Roedd cynnydd hefyd yn y nawdd preifat dderbyniodd o Ddugiaeth Cernyw – yr ystâd sy’n eiddo i etifedd yr orsedd – a gynyddodd bron i 4% i £17,796,000.

Teithiodd Charles a’i wraig Camilla 34,000 milltir ym mlwyddyn ariannol 2010/11, gan gynnwys 14,000 ar dripiau dramor.

Er bod hynny 8,600 milltir yn llai nag yn 2009, gwariodd 56% yn fwy ar deithio mewn awyren a thrên, i £1,080,000.

Roedd wedi ymweld â Phortiwgal, Sbaen a Moroco ym mis Mawrth ac Ebrill, a theithio i India ym mis Hydref er mwyn agor Gemau’r Gymanwlad yn Delhi.

Dywedodd ysgrifennydd preifat y Tywysog, Syr Michael Peat, fod cynnydd mewn costau oherwydd bod Llywodraeth Canada wedi talu am daith fawr 2009 i’r wlad.

“Y Swyddfa Dramor a’r Llywodraeth sy’n penderfynu i le mae’r Tywysog a’r Dduges yn teithio,” meddai Michael Peat.

Roedd y Tywysog, ei wraig, Harry, William a Kate yn cyflogi 132 o weithwyr llawn amser erbyn mis Mawrth eleni, cynnydd ar 124 y llynedd.