Fe fydd yna ‘tsunami’ o bobol yn methu talu eu morgeisi unwaith y bydd cyfraddau llog yn dechrau codi, rhybuddiodd bancwr blaenllaw heddiw.
Dywedodd Richard Banks, prif weithredwr cwmni UK Asset Resolution, fod nifer “dychrynllyd” o deuluoedd yn wynebu colli eu cartrefi.
Mewn cyfweliad â’r Guardian, dywedodd Richard Banks fod rhai darparwyr morgeisi yn rhy drugarog â’u cwsmeriaid, ond sgil effaith hynny oedd eu gorfodi i mewn i ragor o ddyled
Cafodd ei gwmni UK Asset Resolution ei greu er mwyn cynnal morgeisi cwmnïau Bradford & Bingley a Northern Rock yn dilyn yr argyfwng ariannol.
Dywedodd fod 23,000 o’r 750,000 o’r cwsmeriaid sydd gan UK Asset Resolution dros chwe mis ar ei hol hi wrth dalu eu morgeisi.
Fe allai’r nifer gynyddu yn sylweddol unwaith mae’r gyfradd llog yn codi, meddai.
“Os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud am y peth, fe fydd yna tsunami,” meddai.
“Os nad ydych chi’n ffoi o i ben y bryn fe fyddwch chi’n cael eich boddi. Bydd pethau yn mynd yn flêr iawn.
“Rhaid i ni ddechrau trin cwsmeriaid yn deg, yn hytrach nag yn neis. Os nad ydych chi’n gallu fforddio eich morgais fe fyddwch chi’n mynd yn ddyfnach mewn dyled.”
Mae Banc Lloegr wedi cadw’r gyfradd llog ar 0.5% am fwy na dwy flynedd.
Mae rhai arbenigwyr economaidd wedi galw am gynnydd yn y gyfradd llog godi er mwyn gostwng chwyddiant.