Mae Aelodau Seneddol wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gefnu ar gynllun i gau canolfannau gwylwyr y glannau ym Mhrydain.
Mae’r llywodraeth yn bwriadu cau 10 o 18 o orsafoedd gwylwyr y glannau, a dim ond tri o’r rheini fydd yn weddill fydd ar agor drwy’r dydd.
Mae’r Maritime and Coastguard Agency (MCA) yn bwriadu cau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn gyfan gwbl a chau gorsaf Abertawe yn ystod y nos.
Ond dywedodd Pwyllgor Treftadaeth Tŷ’r Cyffredin fod tystiolaeth yr oedden nhw wedi ei dderbyn yn ystod yr ymchwiliad yn codi “pryderon difrifol y bydd y cynlluniau yn peryglu diogelwch pobol”.
‘Diffygiol’
Ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor, Louise Ellman, fod y cynlluniau yn “ddiffygiol iawn” ac mai ychydig iawn o gefnogaeth oedd.
Roedd hi hefyd yn siomedig fod y gweinidog llongau, Mike Penning, wedi “dweud wrth wylwyr y glannau i beidio â chynnig tystiolaeth i’r pwyllgor”.
“Rydyn ni’n derbyn fod angen moderneiddio, ond mae cynlluniau’r Llywodraeth yn ddiffygiol iawn,” meddai Louise Ellman.
“Ychydig iawn o gefnogaeth oedd yna i’r cynigion presennol a does gennym ni ddim hyder y bydd gwylwyr y glannau yn gallu ymateb i argyfyngau ar y môr cystal ag y maen nhw’n ei wneud nawr.
“Bydd cau canolfannau yn arwain at golli gwybodaeth leol ymysg gwylwyr y glannau. Dyw’r pwyllgor ddim wedi ei argyhoeddi gan honiad y Llywodraeth y bydd technoleg yn gwneud yn iawn am golli’r wybodaeth leol.”
Dywedodd ysgrifennydd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, Mark Serwotka, fod “yr adroddiad yn gwbl glir – mae’r Llywodraeth wedi gwneud cawlach”.
“Bydd rhaid dechrau o’r dechrau a chynnwys y staff sy’n gwneud y gwaith yn y trafodaethau.”