Mardi Gras Gogledd Cymru 2011 - dathliad o hoywder
Mae pennaeth y corff sy’n cadw golwg ar gyfartaledd yng ngwledydd Prydain, wedi dweud heddiw fod Cristnogion “eisiau mynd ben-ben” tros achosion o wahaniaethu.

Yn ôl Trevor Phillips ym mhapur newydd The Sunday Telegraph heddiw, mae’r drafodaeth tros wrthwynebiad Cristnogol i hoywder yn cael ei gyrru gan wleidyddiaeth.

“Dw i’n meddwl, i lot o Gristnogion, maen nhw eisiau brwydr, ac maen nhw’n dewis rhywioldeb fel tir y frwydr,” meddai. “Dw i’n meddwl fod yr holl ffrae ynglyn â hawliau Cristnogion. Mae’n ymwneud â gwleidyddiaeth.”

Byddai’n well iddyn nhw ganolbwyntio ar faterion pwysig fel gamblo neu brynu a gwerthu pobol, os ydyn nhw am amddiffyn gwerthoedd Cristnogol, meddai.

“Mae yna nifer o leisiau ymgyrchol o’r gymuned Gristnogol sydd i weld yn benderfynol o danlinellu rhyw erlid sydd ddim yn digwydd, mewn gwirionedd.

“Mae yna rai cyrff Cristnogol sydd yn chwilio am ffeit, ac felly maen nhw wastad yn ail-ddiffinio’r tir mewn modd fel bod unrhyw un sy’n anghytuno â nhw yn negesydd Satan.”

Dylai pob grwp crefyddol fyw yn ôl y gyfraith, meddai, oherwydd mai elusennau ydyn nhw sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus.