Rifiera Ffrainc
Mae peilot Prydeinig a’i wraig wedi marw wedi i’w hawyren fechan blymio i ochr mynydd ger Rifiera Ffrainc.

Y gred ydi fod James a Jacqueline Balmer wedi cychwyn ar daith awyren o’r Eidal ac yn anelu am Troyes, tua 100 milltir i’r de-ddwyrain o Baris, cyn iddyn nhw gael eu lladd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w hawyren yn dipiau ar fynydd Mont Agel, rhwng porthladd Menton a thywysogaeth Monaco.

Mae llefarydd ar ran yr awdurdodau yn Ffrainc wedi cadarnhau mai yn gynnar brynhawn ddoe (dydd Gwener) y digwyddodd y ddamwain.