Neil Lennon
Fe allai’r rheiny sy’n euog o hyrwyddo casineb mewn gêmau pêl-droed wynebu pum mlynedd o garchar, dan gyfreithiau newydd sydd wedi eu cyhoeddi ar ffurf drafft gan Lywodraeth yr Alban.

Y bwriad yw creu dwy drosedd newydd yn ymwneud ag ymddygiad sy’n gallu “ysgogi casineb crefyddol, hiliol neu ffurf arall o gasineb” y tu fewn ac o gwmpas caeau pêl-droed ac ar y We.

Bydd y Bil Ymddygiad Ffiaidd mewn Pêl-droed a Chyfathrebiadau Bygythiol (yr Alban), os caiff ei gymeradwyo, yn ei gwneud yn bosib i wahardd bigots o bêl-droed a’u carcharu am hyd at bum mlynedd.

Ar hyn o bryd mae’r gyfraith yn caniatau erlyn cam-ymddwyn o’r fath am darfu ar yr heddwch, gyda’r ddedfryd fwya’ llym yn flwyddyn o garchar.

Mae troseddu ar y We, megis sylwadau sarhaus neu ymosodol yn cael eu cyhoeddi ar Twitter, hefyd yn cael eu cynnwys – gydag throseddwyr yn wynebu hyd at bum mlynedd dan glo.

Yn ddiweddar mae pêl-droed yr Alban wedi diodde’ sylw gwael iawn ar ôl i ddau ddyn gael eu cyhuddo o anfon boms drwy’r post i reolwr Glasgow Celtic, Neil Lennon fis Mawrth.