Y Cyrnol Gaddafi
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn anfon hofrenyddion rhyfel i ymosod ar luoedd y Cyrnol Gaddafi yn Libya.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ddoe wrth i gynghrair NATO geisio cynyddu’r pwysau ar yr unben.
Fe fydd pedwar hofrennydd Apache yn cael eu hychwanegu at yr ymdrech i gefnogi gwrthryfelwyr Libya – maen nhw’n gallu ymosod yn nes ac yn fwy cywir nag awyrennau.
Ymosod
Y disgwyl yw y byddan nhw’n cael eu defnyddio i ymosod ar luoedd y Llywodraeth yn ardal Misrata lle mae’r ymladd gyda’r gwrthryfelwyr ar eu mwya’ ffyrnig.
Mae’n bosib y byddan nhw hefyd yn cael eu defnyddio i ymosod ar ganolfannau’r Cyrnol Gaddafi ei hun.
Mae ffynonellau o fewn y Llywodraeth yn honni bod Gaddafi bellach ar ffo, yn cuddio mewn ysbytai, a bod ei ymddygiad yn mynd yn fwy a mwy od.
‘Arestio Mladic yn rhybudd’
Yn ôl y Prif Weinidog, David Cameron, fe ddylai arestio’r arweinydd milwrol o Serbia, Ratlko Mladic, fod yn rhybudd i’r Cyrnol Gaddafi hefyd.
Y bwriad yw dod ag achos troseddau rhyfel yn erbyn y dyn sy’n cael ei gyhuddo o fod â rhan sylweddol yn lladdfa Srebrenica.