Mae cadeirydd Ffederasiwn Heddweision Cymru a Lloegr wedi beirniadu toriadau ariannol yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May.

Yng nghynhadledd flynyddol y ffederasiwn heddiw fe fydd Paul McKeever yn dweud mai “dial, nid diwygio, sydd wrth wraidd y newidiadau”.

Fe fydd yn cyhuddo’r Ysgrifennydd Cartref o ymosod yn annheg ar heddweision, gan ddweud fod rhywbeth yn “drewi” am ei thoriadau ariannol o 20% i’r heddlu.

“Mae’n ymddangos mai polisi’r Swyddfa Gartref yw ‘byddwch yn garedig i droseddwyr, ac ymosod ar heddweision’.

“Mae heddweision yn gallu arogli annhegwch dan din o 1,000 metr. Mae hyn yn drewi.”

Fe fydd Paul McKeever hefyd yn gofyn ai bwriad y toriadau yw dial ar yr heddlu am wrthod diwygiadau gwario’r llywodraeth Geidwadol yn 1993.

“Oes rhagor i hyn mewn difri na dial am y gorffennol?” Ychwanegodd y byddai’r toriadau yn “gatastroffig” ac yn “dinistrio” yr heddlu. “Os yw’r heddlu yn methu, does yna ddim byd arall yno ar gyfer ein cymunedau ni.”

Bydd John Giblin, cadeirydd pwyllgor sarsiantiaid Ffederasiwn yr Heddlu, yn dweud ei fod yn “cydnabod fod rhai toriadau yn anochel”.

“Serch hynny mae’n siomedig nad yw’r llywodraeth yn ei ystyried yn flaenoriaeth ein hamddiffyn ni rhag y toriadau.

“Maen nhw’n parhau i fynnu bod rhaid i ni fod yn fwy effeithiol ac effeithlon, ond mae eu polisi nhw yn un ideolegol yn hytrach nag un economaidd.

“Mae’r llywodraeth yma yn casáu’r heddlu ac eisiau ei ddinistrio er mwyn cael ei hail-adeiladu.”