Stadiwm gemau Olympaidd Llundain
Bydd y fflam Olympaidd yn cael ei gario trwy Gymru am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.

Mae trefnwyr y gemau yn Llundain wedi cyhoeddi y bydd y fflam yn teithio trwy Gymru yn ystod taith 70 diwrnod i bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Bydd yna ddathliadau arbennig gyda’r nos ym mhob tref a dinas y mae’r fflam yn ei  gyrraedd.

Bydd y daith 8,000 o filltiroedd yn dechrau yn Land’s End ar 19 Mai 2012 cyn cyrraedd Caerdydd ar 25 Mai.

Bydd y fflam yn cael ei gario o’r brifddinas i Abertawe’r diwrnod canlynol cyn symud ymlaen i Aberystwyth ar 27 Mai a Bangor ar 28 Mai.

Y diwrnod canlynol bydd y fflam yn cael ei gario ar draws gogledd Cymru i Gaer lle bydd y daith yn parhau i rannau o Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Bydd y daith yn gorffen yn Llundain ar ddiwedd mis Gorffennaf yn barod ar gyfer y seremoni agoriadol ar 27 Gorffennaf.

Bydd cyfle i tua 8,000 o bobol ledled Prydain gael eu henwebu i fod yn geidwad y fflam wrth iddo gael ei gario o amgylch y wlad.