Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu fod gwerthiant siopau’r stryd fawr wedi gwella yn ystod mis Ebrill, diolch i gyfuniad o dywydd poeth a phenwythnosau hir.

Roedd gwerthiant ar y stryd fawr 3.7% yn uwch ym mis Ebrill o’i gymharu â’r un mis flwyddyn yn ôl, meddai cwmni cyfrifo BDO.

Bydd y newyddion yn hwb i’r siopau mawr ar ôl mis Mawrth digon digalon, pan dyfodd gwerthiant ar ei lefel isaf er mis Ionawr 2010.

Dywedodd BDO mai tywydd poeth, Pasg hwyr a dau benwythnos gŵyl y banc oedd yn gyfrifol.

Roedd dillad wedi gwerthu’n dda wrth i siopau ryddhau dillad hafaidd. Cynyddodd gwerthiant dillad 5.1% ym mis Ebrill o’i gymharu gyda’r flwyddyn flaenorol.

Dim ond nwyddau yn y cartref welodd cwymp mewn gwerthiant, o 5.3% o’i gymharu gyda’r flwyddyn flaenorol.

Er gwaetha’r cynnydd, dywedodd BDO nad oedden nhw’n siŵr a oedd y ffigyrau calonogol yn ddechrau newydd i’r stryd fawr.

“Roedden ni’n disgwyl i fis Ebrill fod yn gyfnod llewyrchus i’r stryd fawr ac mae’r ffigyrau yma yn cadarnhau hynny,” meddai Don Williams, pennaeth adwerthu BDO.

“Er bod siopwyr yn dechrau gwario mae gan bawb lai o arian na blwyddyn yn ôl. Y neges i’r siopau ydi nad ydym ni wedi dianc o effeithiau’r dirwasgiad eto.”

Dywedodd cwmni Next fod gwerthiant wedi cynyddu 5.2% yn y 13 wythnos cyn 30 Ebrill, ar ôl Nadolig digon digalon.