Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi bygwth rhoi feto ar ddiwygiadau’r llywodraeth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol “ragor o lais” yn y glymblaid ar ôl i’w blaid ddioddef chwalfa yn etholiadau Cymru, yr Alban a Lloegr.

Dywedodd Nick Clegg na fyddai’n ail-ysgrifennu cytundeb y glymblaid ac nad dyma’r amser ar gyfer “gweinidogion yn cwffio fel cathod a chŵn”.

Ond dywedodd wrth raglen Andrew Marr fod “pob llywodraeth yn esblygu ac mae llywodraeth y glymblaid wedi esblygu’n naturiol”.

“Rhaid gweithio gyda’ch gilydd i ddechrau er mwyn gwneud lot o benderfyniadau anodd, ond dros amser daw cyfle i fod yn unigryw.

“Y neges ydw i wedi ei glywed ar stepen drws y ffrynt yw bod pobol eisiau clywed llais y Democratiaid Rhyddfrydol yn uwch yn y llywodraeth.

“Mae eisoes yn uchel iawn y tu mewn i’r llywodraeth – ond rhaid gwneud yn siŵr fod pobol yn ei glywed y tu allan i’r llywodraeth hefyd.”

Mynnodd y byddai’n dweud wrth Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Gweinidog Iechyd Andrew Lansley os nad oedden nhw’n cael eu newid.

“Rhaid i ni ddangos i bobol fod ganddo’n ni ddylanwad ar y Ceidwadwyr ac amddiffyn ein gwerthoedd ein hunain.”