Pencadlys Nokia yn y Ffindir (Majestic CCA 3.0)
Mae cwmni ffonau symudol Nokia yn bwriadu torri 700 o swyddi yn y Deyrnas Unedig yn rhan o’u cynlluniau i gael gwared ar 4,000 o swyddi trwy’r byd.
Fe ddywedodd y cwmni y byddai’r swyddi’n dod i ben erbyn diwedd 2012 wrth iddyn nhw geisio torri £886 miliwn mewn costau.
Mae cwmni ffonau symudol mwyaf y byd yn cyflogi 2,400 o bobl yn y Deyrnas Unedig gyda’u prif safleoedd yn Llundain, Farnborough a Hampshire. Mae disgwyl y bydd y safle yn Farnborough yn cau ddiwedd y flwyddyn nesaf.
Fe ddywedodd Nokia y bydd mwyafrif y swyddi’n cael eu colli yn adrannau ymchwil a datblygu yn ogystal ag mewn adrannau meddalwedd.
Cadw pedair canolfan
Bydd y cwmni o’r Ffindir yn parhau i gadw swyddfeydd ym Mryste, Caergrawnt, Llundain a Hampshire.
Mae Nokia wedi cydnabod mae’r Deyrnas Unedig ynghyd a Denmarc a’r Ffindir sydd wedi dioddef y toriadau mwyaf mewn swyddi.
Fe ddaw’r newyddion wythnos ar ôl i’r cwmni ddatgelu bod eu cyfannau wedi syrthio llawer wrth iddyn nhw golli tir i iPhone cwmni Apple.
Fe fydd Nokia’n gobeithio taro ‘nôl yn y farchnad trwy ddefnyddio meddalwedd Microsoft Windows yn eu smartphones yn ôl eu prif weithredwr, Stephen Elop.