Chris Huhne - bygwth achos llys
Mae un o arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bygwth dod ag achos llys yn erbyn yr ymgyrch ‘Na’ yn y refferendwm pleidleisio.
Mae hynny’n cynnwys y Prif Weinidog, David Cameron; y Canghellor, George Osborne, a’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague.
Mae’r Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, yn eu cyhuddo nhw o ddweud celwydd am gost y system AV o bleidleisio ac wedi awgrymu ei fod yn fodlon mynd i’r llysoedd os na fyddan nhw’n ymddiheuro.
Dyma’r cam diweddara’ yn y ffrae gynyddol rhwng dwy blaid y glymblaid tros y Refferendwm, gyda’r Democratiaid o blaid y newid a’r Ceidwadwyr yn erbyn.
Mae ennill yn bwysig i arweinwyr y ddwy blaid fel ei gilydd er mwyn plesio cefnogwyr sy’n anhapus ynglŷn â’r glymblaid.
‘Anodd cydweithio’ – Huhne
Ond mae Chris Huhne hefyd wedi rhybuddio y gall hi fod yn anodd i’r ddwy blaid gydweithio ar ôl y Refferendwm oherwydd natur yr ymgyrch. Ef oedd prif wrthwynebydd yr enillydd Nick Clegg yn y ras am arweinyddiaeth y blaid.
“Mae’n fater o bryder,” meddai, “pan fydd gyda chi gydweithwyr, yr ydych wedi eu parchu ac wedi gweithio’n dda gyda nhw, yn gwneud honiadau sydd heb sail o gwbl. Os na fyddan nhw’n bod yn onest ynglŷn â hyn, dw i’n siŵr y bydd y llysoedd yn gwneud.”
Mae Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes, hefyd wedi bygwth dod â chwyn gerbron y Comisiwn Etholiadol.
‘Gweithio’n dda’ – Hague
Fe geisiodd William Hague dawelu’r ffraeo gan ddweud bod y glymblaid yn gweithio’n dda ond bod teimladau cryfion ynglŷn â’r drefn bleidleisio.
Ond fe ddywedodd eto ei bod yn iawn trafod cost cyflwyno’r system AV – mae’r ymgyrch ‘Na’ yn dweud y bydd y bil yn £250 miliwn.