Croes
Mae Cristion sydd wedi gwrthod symud croes o du blaen ei fan waith wedi clywed na fydd yn cael ei ddisgyblu gan ei gyflogwyr, a bod ganddo bellach hawl i arddangos y sumbol.

Fe gododd ffrae tros y modd y cafodd y trydanwr, Colin Atkinson, 64, ei drin gan ei gyflogwyr yn Wakefield District Housing (WDH) am arddangos croes wyth modfedd o faint yn ei gerbyd gwaith.

Er ei fod o fewn blwyddyn i ymddeol beth bynnag, roedd Mr Atkinson yn ddigon parod i gael ei ddiswyddo ar ôl iddo wrthod symud y groes. Roedd ei gyflogwyr yn ceisio dadlau eu bod nhw’n gwahardd pob gweithiwr rhag arddangos sumbolau crefyddol o bob math yn eu cerbydau.

Ond, yn dilyn sylw yn y wasg a’r cyfryngau Brydeinig, mae Mr Atkinson wedi clywed fod yr achos yn ei erbyn wedi ei ollwng gan y cwmni, ac y gall gadw ei groes yn nhu blaen ei fan.