Llys Ynadon Dungannon
Roedd ôl troed dyn 33 oed o Omagh wedi ei weld mewn storfa arfau, meddai Heddlu Gogledd Iwerddon.
Fe gafodd Gavin Coyle ei gadw yn y ddalfa am bedair wythnos ar gyhuddiadau a gododd yn sgil yr ymchwiliad i farwolaeth y plismon, Ronan Kerr.
Fe ddywedodd yr heddlu Lys Ynadon Dungannon fod yna dystiolaeth arall hefyd yn erbyn y gweriniaethwr sydd wedi ei gyhuddo o fod ag arfau a ffrwydron yn ei feddiant, gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Mae’r rheiny’n cynnwys y ffrwydryn, Semtex, a deunydd i danio rocedi.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag offer yn ei feddiant ar gyfer eu defnyddio mewn gweithgareddau terfysgol – dau ffôn symudol a phedwar car.
Unig eiriau Gavin Coyle oedd i gydnabod ei fod yn deall y cyhuddiadau.
Cipio arfau
Yn y cyfamser, mae’r heddlu wedi dod o hyd i arfau mewn car yn Swydd Armagh, yn agos at y ffin gyda Gweriniaeth Iwerddon.
Mae tri dyn wedi eu harestio yn y digwyddiad sy’n rhan o ymgyrch gan yr heddlu yn y dalaith i sathru ar grwpiau gweriniaethol ymylol.
Maen nhw wedi rhybuddio bod peryg o ragor o ymosodiadau yn ystod y cyfnod nesa’, sy’n cynnwys etholiadau yng Ngogledd Iwerddon a gweithgareddau i gofio am Wrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916.