David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi awgrymu mai Prydain sydd ar fai am ddegawdau o dyndra a sawl rhyfel ar draws y byd.

Daeth ei sylwadau yn ystod ei daith i Bacistan, wrth i’r Prif Weinidog holi sut all Prydain helpu i ddod a’r gwrthdaro rhwng India a Pacistan dros Kashmir i ben.

“Ond dydw i ddim am geisio gwthio Prydain mewn i ddadl yr oedden ni yn gyfrifol am ei greu yn y lle cyntaf, fel sawl un arall o broblemau’r byd,” meddai.

Mae India a Pacistan wedi bod yn ffraeo dros Kashmir ers i’r gwledydd gael eu rhannu yn 1947. Cafodd y ffiniau gwreiddiol eu creu gan yr Is-iarll Radcliffe yn sgil Deddf Annibyniaeth India.

Roedd disgwyl y byddai Kashmir, sy’n ardal Fwslimaidd ar y cyfan, yn rhan o Bacistan, ond penderfynodd yr Is-iarll Radcliffe ei gynnwys yn India.

Ers hynny mae India a Pacistan wedi mynd i ryfel tair gwaith dros Kashmir.

Mae Prydain yn cael y bai am greu gwrthdaro mewn rhannau eraill o’r byd – gan gynnwys penderfyniad y Prif Weinidog o Gymru, Lloyd George, i greu cartref i’r Iddewon yn Palestina yn 1917.

Cafodd ffiniau sawl gwlad ansefydlog yn y Dwyrain Canol eu creu gan Brydain, gan gynnwys Irac ac Afghanistan.

Ond dywedodd yr hanesydd Aelod Seneddol Llafur, Tristram Hunt, wrth bapur newydd y Daily Telegraph na ddylai David Cameron ymddiheuro am hanes Prydain.

“Mae’n naïf dweud mai Prydain sy’n gyfrifol am nifer o broblemau’r byd,” meddai.

“Mae gan y gwledydd oedd wedi eu gwladychu gan Brydain broblemau cyfoes ddim i’w wneud â beth ddigwyddodd 50 mlynedd yn ôl.

“Mae gan David Cameron dueddiad i fynd i wledydd y byd a dweud beth maen nhw eisiau ei glywed, gan gynnwys Israel, Twrci a Pacistan.”