Cafodd mil yn llai o bobol eu herlyn am droseddau casineb llynedd, er gwaetha cynnydd mewn adroddiadau o achosion o’r fath, yn ôl ffigurau newydd.
Yn ôl adroddiad Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) cafodd 14,480 o bobol eu herlyn am droseddau casineb yn ystod 2016-17, sydd yn gwymp o 6.2% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r cwymp yn debygol o arwain at feirniadaeth o awydd awdurdodau i fynd ar ôl unigolion sydd dan amheuaeth o gyflawni troseddu casineb.
Mae data’r adroddiad yn cyfeirio at droseddau yn ymwneud a rhagfarn yn erbyn hil, crefydd, rhywioldeb, anabledd ac at bobol drawsrywiol.
“Hollol annerbyniol”
“Mae troseddau casineb ar bob ffurf yn hollol annerbyniol ac mae gan y Deyrnas Unedig rhai o’r cyfreithiau cryfaf yn y byd i fynd i’r afael â nhw,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.
“Rydym am ddatgan yn glir y bydd llwfrgwn sydd yn cyflawni’r ymosodiadau atgas yma yn wynebu llwyr rym y gyfraith.”