Mae’r Post Brenhinol yn gobeithio cyflwyno her gyfreithiol er mwyn atal streic 48 awr gan weithwyr post dros bensiynau, tâl a swyddi.
Roedd mwyafrif o aelodau Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi pleidleisio o blaid cynnal streic a fydd yn dechrau ar Hydref 19.
Roedd y Post Brenhinol wedi galw ar y CWU i gefnu ar eu cynllun cyn canol dydd heddiw (Hydref 9) gan ddweud bod y streic yn “anghyfreithlon.”
Mae’r undeb wedi gwrthod cais y cwmni, a bellach mae’r Post Brenhinol wedi nodi eu bod yn gobeithio gorfodi gwaharddiad ar y streic trwy’r Uchel Lys.
“Mae CWU wedi penderfynu peidio tynnu eu hysbysiad yn ôl,” meddai’r Post Brenhinol mewn datganiad. “O ganlyniad i hyn [byddwn] yn danfon cais i’r Uchel Lys am waharddeb.”