Michael Heseltine (llun o wefan Wikipedia)
Dywed un o hoelion wyth y Blaid Geidwadol fod siawns y gellir rhwystro Brexit rhag digwydd.

Yn ôl yr Arglwydd Heseltine, mae’n bosibl y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn newid rheolau ynghylch hawliau pobol i symud o un wlad i’r llall.

“Mae galwadau o nifer cynyddol o wledydd am gyfyngu ar y drefn o ganiatáu mewnfudo rhwng un wlad a’r llall,” meddai ar raglen The Sunday Politics y BBC y bore yma.

“Os digwydd hynny, fe fydd Brexit yn ddiangen, gan mai pryder am fewnfudo oedd un o’r prif resymau pam y pleidleisiodd pobol fel y gwnaethon nhw.

“Dw i’n gobeithio’n fawr na fydd Brexit yn digwydd, ac mae lle i gredu ei bod yn bosibl i amgylchiadau newid a’r farn gyhoeddus newid.”

Dywedodd nad oedd unrhyw ragolygon y gallai Brexit ddod ag unrhyw fanteision yn ei sgil.

“Mae dadleuon cefnogwyr Brexit yn ddi-sail ac yn dwyllodrus,” meddai.

“Edrychwch ar Bombardier, dyna yw byd go-iawn masnach ryngwladol. Siarad am rywbeth nad yw’n bod yw sôn am fyd sy’n ysu am allforwyr o Brydain ymddangos dros y gorwel.”

Trafferthion

Rhybuddiodd fod agwedd ei blaid at Brexit am achosi trafferthion difrifol iddi yn y dyfodol.

“Edrychwch y ffigurau ac fe welwch gyferbyniad llwyr mewn agweddau pobol ifanc a’r genhedlaeth hŷn,” meddai.

“Mae mwyafrif llethol pobol iau o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn union fel mae mwyafrif mawr o’r bobol hŷn o blaid Brexit.

“Os na fydd gennym fel plaid ddim byd i’w ddweud wrth yr elfen o’r etholwyr a fydd yn tyfu, rydym yn wynebu trafferthion mawr.

“Ac mae risg difrifol y gallwn golli’r etholiad nesaf, gyda Jeremy Corbyn yn cael yr allweddi i Rif 10.”

Dywedodd hefyd y dylai Theresa May roi’r sac i’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson.

“Mae pawb yn gwybod beth yw ei gêm, ond mae ei farn ar Brexit yn gwbwl annerbyniol,” meddai.