Mae’r Blaid Lafur yn rhy “Llundeinig”, yn ôl Maer Manceinion, Andy Burnham.
Daw ei sylwadau yng nghynhadledd y blaid yn Brighton, lle nad yw’r un o arweinwyr gogleddol y blaid wedi cael gwahoddiad i draddodi araith.
Yr unig faer o’r blaid fydd yn cael annerch y gynulleidfa o’r prif lwyfan yw Maer Llundain, Sadiq Khan.
‘Chwit-chwat’
Mae Andy Burnham, o ganlyniad, wedi cyhuddo’r blaid o fod yn “chwit-chwat” yn ei hagwedd at bobol o ogledd Lloegr ac at ddatganoli yn y rhan honno o Loegr.
Fe roddodd Andy Burnham y gorau i’r cabinet cysgodol er mwyn sefyll fel ymgeisydd yn y ras i fod yn Faer Manceinion.
Roedd e hefyd yn ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2015 pan gafodd Jeremy Corbyn ei ethol.
Mae e hefyd wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o’i amgylchynu ei hun gydag aelodau seneddol deheuol – yn eu plith mae Diane Abbott, John McDonnell ac Emily Thornberry.
Problem ehangach
Ond nid problem o fewn y Blaid Lafur yn unig yw hi, yn ôl Andy Burnham.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Nid nad oes gen i hawl ddwyfol i siarad yn y gynhadledd yw’r peth.
“Ond mae’n fy siomi nad oes llais gogleddol amlwg o un o’r dinasoedd yn siarad er mwyn cael cydbwysedd â Sadiq Khan.
“Nid beirniadaeth ar Jeremy yw hyn. Mae’n sefydliadol. Mae’r blaid yn rhy Llundeinig. Dydy hi ddim yn meddwl am yrru neges gref at bleidleiswyr yn y gogledd.”
Awgrymodd fod diffyg siaradwyr o’r gogledd yn arwydd o agwedd “chwit-chwat” y blaid at ddatganoli.