Mae cwmni Uber wedi mynnu y byddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â rhoddi trwydded newydd i’r cwmni yn Llundain.

Yn ôl corff Trafnidiaeth i Lundain (TfL), mi wnaethon nhw wrthod diweddaru’r drwydded oherwydd nad yw Uber yn “ffit nac yn ddigon da” i weithredu yn y ddinas.

Mae Uber wedi ymateb trwy nodi bod y penderfyniad yn “dangos i’r byd bod Llundain yn bell o fod yn agored i gwmnïau arloesol”.

Uber

Gwasanaeth tacsi yw Uber sydd yn gweithio trwy ap digidol ac sy’n ddibynnol ar yrwyr sydd yn defnyddio eu ceir eu hunain.

Mae 40,000 o yrwyr yn gweithio i’r cwmni a 3.5 miliwn o bobol yn defnyddio’r gwasanaeth yn Llundain.

Roedd llawer wedi rhagweld y byddai’r ap yn cael ei wahardd yn Llundain ac mae gwrthwynebwyr yn gwmni yn honni bod Uber yn achosi tagfeydd.

Mae’r cwmni hefyd wedi’i feirniadu am beidio â chadw trefn ar ei yrwyr ac am ei driniaeth o honiadau o yrwyr yn ymosod yn rhywiol.

Ymateb gwleidyddion

Mae ymateb gwleidyddion i ddyfarniad TfL wedi bod yn gymysg, er bod Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi cefnogi’r penderfyniad “yn llwyr”.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur, Frank Field, “gall y penderfyniad newid pethau o ran yr economi gig” gan gyfeirio at y term am farchnad lle mae diffyg swyddi llawn amser.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Tom Tugenhadt, wedi cyhuddo Sadiq Khan o “wrthwynebu technoleg” ac o fod eisiau “diffodd y rhyngrwyd”.