Old Bailey Llun: Wicipedia
Mae seiclwr wnaeth wrthdaro â dynes â’i lladd wedi cael ei garcharu am 18 mis.

Roedd Charlie Alliston, 20, yn teithio 18mya pan wrthdarodd â Kim Briggs, 44, wrth iddi groesi stryd yn nwyrain Llundain, ym mis Tachwedd llynedd.

Doedd dim brêc blaen ar y beic rasio anghyfreithlon.

Gwadodd y dyn o Bermondsey, de Llundain, y ddau gyhuddiad yn ei erbyn.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd: “Nid fi sydd ar fai, mae pobol naill ai yn meddwl eu bod yn medru gwrthsefyll popeth neu gyda dim parch tuag at seiclwyr.”

Yn dilyn achos yn yr Old Bailey cafwyd Charlie Alliston yn ddieuog o hunan laddiad ond cafodd ei ddyfarnu’n euog o achosi niwed corfforol difrifol trwy “yrru’n gynddeiriog.”

“Dw i ddim yn amau o gwbl dy fod yn anghywir,” meddai’r Barnwr Wendy Joseph. “Roeddet ti’n siŵr o achosi damwain.”