Mae’r cwmni teganau o Ddenmarc, Lego, am gael gwared a 1,400 o swyddi ar ol i ostyngiad mewn gwerthiant orfodi’r cwmni i ad-drefnu.

Mi fydd y cam hwn yn golygu bod 8% o’r 18,200 o weithlu sydd gan y cwmni ledled y byd mewn perygl o golli eu swyddi – gyda’r mwyafrif o’r swyddi yn debygol o fynd cyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl Lego, sy’n cyflogi 900 o staff yn y Deyrnas Unedig, mae angen “ad-drefnu’r” cwmni yn dilyn y pum mlynedd ddiwethaf sydd wedi gweld Lego yn mynd yn “hynod o gymhleth” gan ei rwystro rhag tyfu.

Yn ogystal â hyn, dangosodd canlyniadau diweddara’ fod y cwmni wedi gweld lleihad o 5% yn ei werthiant dros yr hanner blwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd yn y farchnad yn Tsieina yn methu â digolledu’r dirywiad a welwyd ym marchnadoedd sefydledig y cwmni yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Lego’n “ymddiheuro”

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y Grŵp Lego, Jorgen Vig Knudstorp, fod y cwmni yn “ymddiheuro” am y newidiadau hyn a fydd yn “ymyrryd” â bywydau ei weithwyr.

“Mae ein gweithwyr yn rhoi cymaint o frwdfrydedd i mewn i’w gwaith o ddydd i ddydd ac rydym ni’n llwyr werthfawrogi hynny”, meddai.

“Ond yn anffodus, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y newidiadau anodd hyn.”