Mae dynes feichiog sydd ar fin rhoi genedigaeth i’w phlentyn wedi bod ar goll ers wythnos, yn ôl yr Heddlu yn Wiltshire.

Cafodd Natasha Joanne Johnson, 26 oed, ei gweld diwethaf yn mynd i mewn i dacsi ger ei chartref yn Trowbridge, Wiltshire, ar 24 Awst ac mae lle i gredu ei bod wedi teithio i Sevenoaks yn Swydd Gaint.

Mae Heddlu Wiltshire wedi dweud bod ganddynt “bryderon” amdani hi a’i babi ac yn apelio am unrhyw wybodaeth amdani