O’r wythnos nesaf ymlaen, fe fydd cloc Big Ben yn Llundain yn distewi am bedair blynedd wrth i waith adnewyddu gael ei gynnal ar y cloc a’r adeilad.

Bydd gweithwyr yn dechrau ar y gwaith o adnewyddu Tŵr Elizabeth, sy’n dal y cloc a’r gloch, ar ddydd Llun, Awst 21.

Fe fydd disgwyl i’r clychau ailddechrau canu yn 2021 wedi hynny, ond fe fyddan nhw’n eu canu ar ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys Nos Galan a Sul y Cofio.

Dyma’r cyfnod hwyaf i’r cloc ddistewi ers iddo gael ei adeiladu yn 1859.

Mae lle i gredu i’r cloc gael ei alw ar ôl y Cymro o’r Fenni, Benjamin Hall, oedd yn Aelod Seneddol ac yn beiriannydd sifil, ac yn ŵr i Augusta Hall a gâi ei hadnabod yn ‘Arglwyddes Llanofer’ a ‘Gwenynen Gwent’, ac yn enwog am noddi diwylliant a chelfyddydau Cymreig.