Fe wnaeth beiciwr moped ddioddef ymosodiad asid yn nwyrain Llundain ddiwedd prynhawn ddoe – lai na 24 awr ar ôl pum digwyddiad tebyg.

Cafodd Heddlu Llundain eu galw tua 5pm yn dilyn adroddiadau o ymgais i ddwyn moped yn Ballards Road, Dagenham.

Roedd dau ddyn ar foped arall wedi mynd ar ôl y beiciwr moped gan chwistrellu ‘sylwedd gwenwynig’ arno a cheisio dwyn ei foped, ond heb lwyddo.

Aed â’r dyn i’r ysbyty ond cafodd ei ryddhau’n ddiweddarach gan na chafodd ei anafu’n ddifrifol.

Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.