Atomfa Hinkley Point (Llun: Richard Baker CCA 2.0)
Mae’r gost o adeiladu atomfa niwclear newydd Hinkley Point wedi codi £1.5bn, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae cwmni ynni EDF o Ffrainc wedi dweud y bydd bellach yn costio £19.6bn i adeiladu’r atomfa ar y safle yng Ngwlad yr Haf.

Mae’r newyddion yn dilyn adolygiad o gostau ac amserlen y prosiect a gynhaliwyd yn dilyn penderfyniad terfynol EDF ym mis Medi’r llynedd i barhau â’r buddsoddiad.

Dywed EDF na fydd unrhyw effaith ariannol ar bobol yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau.

Mae’n debyg y bydd yn golygu bod oedi o hyd at 15 mis cyn cwblhau’r gwaith ond mae’r cwmni’n gobeithio y bydd y safle’n weithredol erbyn 2025.