Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae ’na bwysau cynyddol ar  Theresa May a’r Canghellor Philip Hammond i lacio’r cyfyngiad o 1% ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

Dywedodd ffynhonnell ar ran y Llywodraeth bod yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson eisiau rhoi hwb i gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus a’i fod yn credu y dylid dilyn argymhellion cyrff annibynnol adolygu cyflogau sy’n cefnogi codi cyflogau.

Mae Boris Johnson yn “credu’n gryf” y gellir codi cyflogau yn y sector cyhoeddus “mewn ffordd gyfrifol” na fydd yn rhoi gormod o bwysau ar y pwrs cyhoeddus, meddai’r ffynhonnell.

Mae’r pwysau’n cynyddu ar y Prif Weinidog a Philip Hammond i lacio eu polisïau llymder, gyda nifer o ASau Ceidwadol yn galw am ddiwedd i’r cyfyngiad o 1% ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

Daw’r galwadau ar ôl i’r Torïaid golli eu mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin gyda hwb sylweddol i Lafur sydd wedi rhoi addewid i sgrapio’r cyfyngiad o 1%.

Fe fyddai cynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus yn rhoi hwb i gyflogau 5.1 miliwn o weithwyr, gan gynnwys 1.6 miliwn yn y Gwasanaeth Iechyd (GIG), yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS). Mae’n debygol o gostio biliynau o bunnoedd.