Neuadd y Dref lle bydd y cyngor yn cwrdd Llun: O wefan y cyngor
Fe fydd trigolion Twr Grenfell, a oroesodd tan yn y bloc o fflatiau, yn cael eu gwahardd o gyfarfod cyntaf y cyngor ers y trychineb oherwydd pryderon y gallen nhw “darfu” ar y cyfarfod.

Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Kensington a Chelsea y bydd cyfarfod o’r cabinet ddydd Iau yn breifat, ac yn cael ei gadeirio gan arweinydd y cyngor sydd wedi wynebu beirniadaeth lem.

Mae ymdrech gan brotestwyr i fynd i mewn i Neuadd y Dref yn Kensington ar 16 Mehefin, ddeuddydd ar ôl y trychineb, yn un o’r rhesymau pam na fydd y cyhoedd yn cael bod yn bresennol, meddai’r cyngor.

Fe fydd cynghorwyr yn cwrdd heddiw i drafod y tan yn Nhwr Grenfell, ynghyd a swyddogion cynorthwyol ac unrhyw wahoddedigion, yn ôl neges ar wefan yr awdurdod lleol.

Nid yw’n glir a oes un o’r goroeswyr wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod.

Daeth y cyngor o dan y lach oherwydd eu hymateb i’r argyfwng gyda nifer o drigolion yn honni nad oedan nhw wedi cael unrhyw gymorth ganddyn nhw.

Fe ymddiswyddodd prif weithredwr y cyngor, Nicholas Holgate, wythnos ddiwethaf ac mae ’na bwysau wedi bod ar arweinydd y cyngor, Nicholas Paget-Brown, i wneud yr un peth.