Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhybuddio am “oblygiadau difrifol” os na chaiff dêl ei sefydlu yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r trafodaethau er mwyn adfer trefn yn Stormont yn parhau heddiw, gyda phleidiau Gogledd Iwerddon yn anelu i lunio dêl cyn y terfyn amser prynhawn ddydd Iau.
Os fydd y pleidiau yn methu a dod i gytundeb mae’n bosib y bydd yn rhaid i Ogledd Iwerddon gael ei rheoli yn uniongyrchol o San Steffan am gyfnod.
“Ein nod yw adfer trefn,” meddai Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, James Brokenshire. “Dw i ddim am fynd mewn i fanylder ynglŷn â beth fydd yn digwydd os na fydd hynna’n digwydd. Ond, yn amlwg fyddai’r goblygiadau yn ddifrifol.”
Deddf yr Iaith Wyddeleg
Mae’r anghydfod rhwng dwy prif blaid Gogledd Iwerddon, DUP a Sinn Fein, yn parhau – gyda chyflwyniad Deddf yr Iaith Wyddeleg ymysg un o’r pynciau dadleuol.
Tra bod Sinn Fein yn mynnu nad ydyn nhw am gyfaddawdu dros y ddeddf, mae Arweinydd y DUP, Arlene Foster, wedi dweud na fyddai’r ddeddf yn cael ei chyflwyno dan ei harweiniad hi.
Mae Gwyddeleg eisoes yn cael ei gefnogi yng Ngogledd Iwerddon o fewn y sustem addysg, ac un opsiwn i ddod â’r anghydfod i ben fyddai cyflwyno deddf i ddiogelu tafodiaith Sgoteg Wlster.