Tŵr Grenfell (Llun: Wikipedia)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi beirniadu’r cymorth sydd wedi’i roi i deuluoedd y rhai sydd wedi’u heffeithio gan y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain.

Dywedodd hi nad yw’r cymorth sydd wedi’i roi eisoes “yn ddigon dda”.

Yn ôl yr heddlu, mae 58 o bobol naill ai wedi marw neu’n dal ar goll heb obaith o gael eu darganfod yn fyw yn dilyn y digwyddiad fore Mercher.

Mae’r heddlu wedi rhybuddio y gallai nifer y meirw godi eto wrth iddyn nhw ddechrau enwi’r rhai fu farw.

Y cyntaf ohonyn nhw oedd Mohammad Alhajali, ffoadur 23 oed o Syria.

Y tân gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd

A 58 o bobol wedi marw, hwn yw’r tân gwaethaf yn Llundain ers yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May fod yna “rwystredigaeth” yn dilyn y digwyddiad wrth i deuluoedd ei chael hi’n anodd cael gwybodaeth am eu hanwyliaid.

Mae’r gwasanaeth tân wedi disgrifio’r tân fel rhywbeth allan o “ffilm drychineb”.

Ychwanegodd Theresa May: “Dw i wedi gorchymyn bod mwy o staff yn cael eu hanfon i’r ardal, yn gwisgo dillad llachar, fel y gellir dod o hyd iddyn nhw’n hawdd, yn dosbarthu gwybodaeth ac yn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi.”