Peter Hain
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “roi blaenoriaeth i’w plaid tros heddwch”, gan gyfeirio at ddêl sydd ar y gweill rhyngddyn nhw a’r DUP.

Yn ôl yr Arglwydd Peter Hain – a fu’n Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon rhwng 2005 a 2007- mae’r sefyllfa yn San Steffan yn “niweidiol” i drafodaethau heddwch Stormont.

Wrth i’r pleidiau gweriniaethol a’r unoliaethwyr geisio ddod i gyfaddawd yng nghynulliad Gogledd Iwerddon mae Peter Hain wedi dadlau nid oes modd i’r llywodraeth Brydeinig ymdrin â’r sefyllfa mewn modd “niwtral”.

“Sut allwch fod yn niwtral wrth ddod â’r pleidiau yma at ei gilydd pan mae eich llywodraeth a’ch Prif Weinidog yn ddibynnol ar blaid fwyaf Gogledd Iwerddon,” meddai Peter Hain.

“Dw i ddim yn deall sut all hyn weithio. Mae’r sefyllfa yn un niweidiol iawn. Dw i’n credu eu bod nhw ond yn meddwl am les eu hunain gan flaenoriaethu’u plaid dros heddwch yng Ngogledd Iwerddon.”