John Bercow, Llefarydd Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae John Bercow wedi cael ei ail-ethol yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin prynhawn ma.

Dywedodd AS Llafur Buckingham y byddai’n sicrhau bod pob rhan o’r Tŷ yn cael gwrandawiad “teg a llawn”.

Roedd disgwyl i John Bercow wynebu her petai’r Ceidwadwyr wedi sicrhau mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol ond, yn sgil y canlyniadau siomedig, nid yw hynny wedi digwydd.

Yn gynharach eleni roedd pump AS Ceidwadol wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn John Bercow ar ôl iddo ddweud na ddylai’r Arlywydd Donald Trump gael yr hawl i annerch y Senedd yn ystod ei ymweliad gwladol.

Serch hynny, dywedodd un o’r rhai oedd wedi’i feirniadu James Duddridge, nad oedd bwriad i’w herio bellach gan ychwanegu bod “brwydrau pwysicach i’w hymladd” yn y Deyrnas Unedig yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol.

Daeth John Bercow yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn 2009. Cafodd ei longyfarch am gael ei benodi unwaith eto gan y Prif Weinidog Theresa May.