Strydoedd Llundain wedi'r ymosodiadau (Llun: PA)
Mae’r gymuned Foslemaidd wedi bod yn dosbarthu rhosod yn Llundain fel arwydd o undod yn dilyn yr ymosodiadau brawychol diweddar.

Cafodd 3,000 o rosod eu dosbarthu ar bont Llundain, lle digwyddodd yr un o’r ddau ymosodiad pan darodd fan i mewn i dorf o bobol, gan ladd wyth ohonyn nhw ac anafu dwsinau’n rhagor.

Dywedodd prif drefnydd y digwyddiad, Zakia Bassou ei fod yn “arwydd symbolaidd o gariad at y cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan yr ymosodiad”.

Talodd y prosiect 1,000 Roses London am y blodau drwy ymgyrch gyhoeddus, ac fe gawson nhw eu brynu o siop flodau Zara Floral yn East Grinstead.

Dywedodd y trefnwyr fod cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.