Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn parhau i drafod â phlaid Wyddelig y DUP heddiw mewn ymgais i ffurfio llywodraeth.

Mae’r Ceidwadwyr wyth aelod yn brin o fwyafrif ar ôl etholiad cyffredinol brys digon siomedig oedd wedi gweld Jeremy Corbyn a’r Blaid Lafur yn ennill tir.

Roedd disgwyl y gallai buddugoliaeth swmpus olygu y byddai Theresa May yn diswyddo’r Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd a’r Ysgrifennydd Tramor Boris.

Ond mae’r tri wedi cadw eu swyddi am y tro, ynghyd â’r Ysgrifennydd Brexit David Davis a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Syr Michael Fallon.

Mae lle i gredu erbyn hyn y bydd Theresa May yn canolbwyntio ar enwi olynwyr i’r wyth o weinidogion oedd wedi colli eu seddi wrth i nifer seddi’r blaid ostwng i 318.

DUP

Ond mae Theresa May wedi cael eu beirniadu am droi at yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP).

Ymhlith polisïau’r blaid Wyddelig mae gwrthwynebu priodasau o’r un rhyw – yn groes i’r hyn y mae Theresa May wedi bod yn awyddus i’w hyrwyddo.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson wedi tynnu sylw at hyn ar wefannau cymdeithasol, a hithau wedi priodi ei phartner Jen Wilson yn 2016.

Ond mae hi wedi dweud ei bod hi wedi derbyn sicrwydd gan Theresa May na fyddai cefnogaeth y Ceidwadwyr i briodasau o’r un rhyw yn newid.

Sinn Fein a’r broses heddwch

Yn y cyfamser, mae Sinn Fein wedi mynegi pryderon am ddyfodol y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon pe bai’r DUP yn rhan o lywodraeth Prydain.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Alex Maskey wrth Newsnight y BBC fod y trefniant yn “ddiofal”, a’i fod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain gadw at gytundeb Gwener y Groglith.