Theresa May a Jeremy Corbyn (Llun: Luniau PA)
Mi fydd prif bleidiau’r Deyrnas Unedig yn parhau â’u hymgyrchoedd etholiadol heddiw, wedi cyfnod o seibiant yn sgil ymosodiad brawychol Llundain nos Sadwrn.

Penderfynodd arweinwyr y prif bleidiau ddod ag ymgyrchu i ben dros y penwythnos yn dilyn yr ymosodiad ar London Bridge lle bu farw saith o bobol.

Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi mynnu y bydd yr etholiad cyffredinol ddydd Iau yn mynd yn ei flaen er gwaetha’r ymosodiad ac mae disgwyl iddi draddodi araith heddiw yn addo cynnig “arweinyddiaeth” i fynd i’r afael a brawychiaeth.

Daeth saib ymgyrch etholiadol y blaid Lafur i ben prynhawn dydd Sul wrth i’r arweinydd, Jeremy Corbyn, feirniadu’r modd mae Theresa May wedi delio gyda brawychiaeth gan ei chyhuddo o wneud toriadau i luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, hefyd wedi beirniadu “penderfyniadau anghywir” Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran cyllidebau’r heddlu.

Er bu saib yn ymgyrchoedd y mwyafrif o bleidiau dros y penwythnos, penderfynodd UKIP i barhau a’u hymgyrch gyda’r arweinydd, Paul Nutall, yn honni y byddai’r “eithafwyr wedi eisiau ni i stopio.”