Theresa May wedi ysbrydoli cân
Fe allai cân am y “celwyddgi” Theresa May gyrraedd brig y siartiau erbyn y penwythnos.
Mae Liar Liar GE2017 yn rhif tri ar hyn o bryd, ond mae’n codi’n raddol ac mi allai ddisodli cân gan Justin Bieber, Despacito yn y pen draw.
Mae clipiau o areithiau a chyfweliadau Prif Weinidog Prydain yn ymddangos yn y gân, a’r cytgan yn cynnwys y geiriau, “She’s a liar liar, you can’t trust her, no, no, no”.
Bydd cyhoeddiad ddydd Gwener pwy sydd wedi cyrraedd brig y siartiau’r wythnos hon.
Mae Liar Liar GE2017 eisoes wedi cyrraedd brig siartiau iTunes ar sail lawrlwythiadau, gyda mwy na 30,000 o bobol wedi prynu copi digidol dros y pum niwrnod diwethaf.
Mae’r gân hefyd wedi cael ei chwarae dros 100,000 o weithiau ar y we, a’r fideo wedi cael ei chwarae dros filiwn o weithiau ar YouTube.
Er mor boblogaidd yw’r gân, fydd hi ddim yn cael ei chwarae yn ystod rhaglen y siartiau ar Radio 1 ddydd Sul rhag ofn ei bod hi’n torri rheolau ymgyrchu’r etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.
Ond mae Radio 1 yn mynnu nad ydyn nhw wedi gwahardd y gân.
Bydd yr holl elw o’r gân cyn Mehefin 8 yn mynd at fanciau bwyd ac elusen Cynulliad y Bobol yn erbyn Llymder.
Cafodd fersiwn o’r gân ei rhyddhau saith mlynedd yn ôl fel ymateb i’r llywodraeth glymblaid yn San Steffan, gan gyrraedd rhif 89 yn y siartiau.