Salman Abedi (Llun: Heddlu Greater Manchester)
Mae tri dyn a gafodd eu harestio mewn perthynas â’r ymosodiad brawychol ym Manceinion yn ystod cyngerdd gan Ariana Grande ar Fai 22, wedi cael eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.
Roedd y dynion 20, 24 a 37 oed ymhlith 14 o bobol sydd wedi cael eu harestio hyd yma – ac mae’r 11 arall yn y ddalfa o hyd.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r posibilrwydd nad oedd yr hunanfomiwr Salman Abedi yn gweithredu ar ei ben ei hun pan ffrwydrodd e ddyfais yng nghoridor Arena Manceinion nos Lun diwethaf.
Ymchwiliad
Eglurodd yr heddlu eu bod nhw’n parhau i edrych ar luniau o gamerâu cylch-cyfyng er mwyn deall symudiadau ola’r ymosodwr.
Maen nhw hefyd yn “deall yn dda” sut y cafodd y ddyfais ei chreu ac o ble y cafodd Salman Abedi y cydrannau i’w greu.
Fe ddaeth i’r amlwg ar ôl y digwyddiad ei fod e wedi dychwelyd i wledydd Prydain o Syria bedwar diwrnod yn unig cyn yr ymosodiad.
Dydy’r heddlu ddim wedi gallu dweud â sicrwydd eto nad oedd e’n aelod o rwydwaith o frawychwyr.
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am gês dillad glas roedd Salman Abedi yn ei gario yn y dyddiau cyn yr ymosodiad.
Salman Abedi
Roedd yr heddlu’n gwybod am Salman Abedi eisoes, ar ôl iddo gyflawni nifer o fân droseddau, ond doedd dim rheswm ganddyn nhw i gredu ei fod yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd.
Roedd ganddo fe gofnod troseddol ers 2012 am gyfres o droseddau, gan gynnwys dwyn, derbyn eiddo oedd wedi cael ei ddwyn ac ymosod.
Dywedodd yr heddlu y gallai unigolion sy’n gysylltiedig â Salman Abedi gael eu cyhuddo maes o law o gynllwynio i lofruddio.
Bu farw 22 o bobol yn yr ymosodiad, a chafodd dwsinau yn rhagor eu hanafu.
Cyngerdd teyrnged
Daeth cadarnhad ddoe y bydd Ariana Grande yn dychwelyd i Fanceinion ar Fehefin 4 ar gyfer cyngerdd teyrnged yn stadiwm criced Old Trafford.
Ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan mae Justin Bieber, Katy Perry a Coldplay.
Fe fydd yr elw o gyngerdd Liam Gallagher yn y ddinas neithiwr yn mynd at y teuluoedd.