Michal Kiesier (Llun Heddlu Witlshire)
Mae heddlu yn ne-orllewin Lloegr yn chwilio am garcharor “peryglus” sydd wedi dianc o ysbyty ac sy’n cario arf.

Fe lwyddodd Michal Kisier, 30, i dwyllo y swyddogion diogelwch oedd yn ei warchod yn Ysbyty Ardal Caersallog – Salisbury – tua 7yh nos Fawrth (Mai 30). Roedd yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i anaf i’w ben.

Mae Michael Kisier yn ddyn gwyn, 5 troedfedd a hanner o daldra, gyda gwallt melyn a sawl tatw ar ei wddw. Pan ddihangodd o’r ysbyty, roedd yn gwisgo trowsus tracwisg llwyd, a chrys-T du, ac roedd ganddo drenyrs am ei draed.

Mae Heddlu Wiltshire wedi cadarnhau eu bod nhw’n defnyddio cwn i chwilio am y carcharor, a’u bod nhw’n ei ystyried yn ddyn peryglus oherwydd bod ganddo rasel yn ei feddiant.

Enw iawn Michael Kisier ydi Michal Kisiel, ond mae’n aml yn amrywio’r ffordd y mae’n ei sillafu.