Salman Abedi
Bellach mae’r heddlu wedi arestio 10 person yn y Deyrnas Unedig mewn cysylltiad â’r ymosodiad ym Manceinion nos Lun.

Mae wyth dyn wedi’u cadw yn y ddalfa erbyn hyn, fel rhan o’r ymchwiliad i’r bom a ffrwydrodd yn Arena Manceinion gan ladd 22 o bobol. Mae dau wedi cael eu rhyddhau.

Cred yr heddlu bod yr hunan-fomiwr, Salman Abedi, 22, a gafodd ei eni ym Manceinion ond oedd yn dod o deulu o Libya, wedi gweithredu fel rhan o rwydwaith ehangach.

Mae lefel bygythiad y Deyrnas Unedig yn aros ar ei huchaf bosib, sy’n golygu y gallai ymosodiad arall fod ar fin digwydd.

Yn Tripoli, cafodd brawd iau Salman Abedi, Hashem, 20, a’u tad, Ramadan, eu dal gan yr awdurdodau.

Roedd y gwasanaethau diogelwch yn ymwybodol o Salman Abedi, ond roedd ei risg i’r cyhoedd “yn cael ei adolygu”.