Roedd costau teithiau awyrennau yn uwch fis diwethaf o ganlyniad i wyliau’r Pasg yn disgyn ym mis Ebrill (Llun: PA)
Mae’r gyfradd chwyddiant wedi codi i’w lefel uchaf ers mis Medi 2013.
Yn ôl Swyddfa’r Ystadegau Gwladol (ONS), roedd chwyddiant yn mesur 2.7% ym mis Ebrill ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).
Mae’n parhau’n uwch na tharged Banc Lloegr o 2%, ac mae’n uwch na’r gyfradd ym mis Chwefror a Mawrth, sef 2.3%.
Mae Banc Lloegr wedi awgrymu y gallai’r gyfradd ar y CPI gyrraedd 3% yn hwyrach y flwyddyn hon o ganlyniad i gwymp yn y bunt oherwydd Brexit gyda phrisiau’n codi.
Mae’r ONS yn adrodd fod cynnydd mewn costau byw, gyda chostau teithiau awyrennau yn uwch fis diwethaf o ganlyniad i wyliau’r Pasg yn disgyn ym mis Ebrill o gymharu â mis Mawrth.