Nicola Sturgeon (Llun: Llywodraeth Agored)
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson wedi awgrymu nad yw ei phlaid am weld ail refferendwm annibyniaeth i’r wlad “tan oeddeutu 2049”.

Eisoes, mae arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod hi’n awyddus i gynnal refferendwm cyn diwedd gwanwyn 2019, yn dilyn y siom yn 2014.

Cytundeb Caeredin

Ond mae Ruth Davidson yn dadlau y dylai’r pleidiau sy’n cefnogi cynnal ail refferendwm barchu’r canlyniad gwreiddiol drwy Gytundeb Caeredin.

Dywedodd wrth bapur newydd y Scotsman: “Pan lofnododd Nicola Sturgeon Gytundeb Caeredin gan ddweud y byddai hi’n parchu’r canlyniad, ro’n i’n ei chredu hi.

“Dywedodd hi mai am genhedlaeth fyddai hynny. Ry’n ni i gyd yn ymdrechu i sicrhau hynny. Dyma rywbeth sy’n cael ei benderfynu gan bobol yr Alban.”

Wrth ddiffinio ‘cenhedlaeth’, ychwanegodd Ruth Davidson: “Beth oedd diffiniad Alex Salmond? Fe ddywedodd e rhwng refferenda ’79 a 2014 fod hynny’n genhedlaeth. Mae’n gwneud y tro i fi.”

Ers ei sylw gwreiddiol, mae Alex Salmond wedi newid ei farn, gan ddweud bod Brexit a phoblogrwydd yr SNP mewn etholiadau’n ddigon o gyfiawnhad dros gynnal ail refferendwm.

Ymateb yr SNP

Wrth ymateb i’ sylwadau Ruth Davidson, dywedodd ymgeisydd yr SNP dros Ogledd Caeredin a Leith, Deirdre Brock: “Mae Ruth Davidson yn llygad ei lle fod hyn yn rhywbeth ddylai gael ei benderfynu gan bobol yr Alban – a dyna’n union ry’n ni’n ei gynnig.

“Ond dywedodd Ruth Davidson hefyd y byddai Brexit yn drychineb i swyddi’r Alban a’i heconomi – nawr mae hi’n dweud na ddylen ni gael y cyfle i osgoi hynny.

“Mae hi ond yn deg fod yr Alban yn cael dewis ynghylch ei dyfodol unwaith mae telerau Brexit yn eglur. Dylai hynny fod yn benderfyniad i’r Alban ac nid i Dorïaid San Steffan.”