Teyrnged gan Aston Villa i Ugo Ehiogu (Llun: PA)
Cafodd teyrnged ei rhoi i gyn-amddiffynnwr Aston Villa, Ugo Ehiogu yn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Birmingham yn Villa Park y prynhawn yma.

Bu farw’r cyn-chwaraewr a hyfforddwr dan 23 Spurs yn 44 oed yr wythnos hon ar ôl cael trawiad ar y galon ar y cae ymarfer.

Cafwyd munud o gymeradwyaeth yn y gêm a gafodd ei hennill gan Aston Villa o 1-0.

Spurs

Yn y cyfamser, mae ymosodwr Spurs, Harry Kane yn mynnu bod Spurs yn benderfynol o ennill yr Uwch Gynghrair er cof am Ugo Ehiogu.

Collon nhw brynhawn ddoe o 4-2 yn erbyn Chelsea yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr yn Wembley, ond mae eu gobeithion o godi tlws yr Uwch Gynghrair yn dal yn fyw.

Cafwyd munud o gymeradwyaeth yn Wembley hefyd, gyda’r ddau set o gefnogwyr yn llafarganu enw Ugo Ehiogu.

‘Cymeriad gwych’

Dywedodd Harry Kane: “Wrth gwrs fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn anodd.

“Roedd Ugo yn gymeriad gwych ar y cae ymarfer, roedd y newyddion yn sioc a bod yn onest.

“Wrth gwrs y gwnawn ni bopeth allwn ni i ennill y gynghrair iddo fe – roedden ni am ennill iddo fe heddiw ac i ni ein hunain hefyd.”