Theresa May (Llun: tudalen Twitter Theresa May)
Mae pobol yng ngwledydd Prydain yn “dod ynghyd ac yn uno” yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn ei neges Pasg.
Dywedodd Theresa May, sy’n ferch i ficer, fod “rhaid” i werthoedd Cristnogaeth greu undod yn sgil canlyniad y refferendwm, ac y dylid bod yn “hyderus” am rôl Cristnogaeth yn y gymdeithas.
Ychwanegodd y dylai pobol deimlo bod ganddyn nhw ryddid i drafod eu ffydd yn agored.
‘Undod’
Yn ei neges, dywedodd Theresa May: “Eleni, ar ôl cyfnod o ddadlau dwys am y dyfodol cywir i’n gwlad, mae yna ymdeimlad fod pobol yn dod ynghyd ac yn uno y tu ôl i’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
“Oherwydd wrth galon y wlad hon mae yna undeb o bobol a gwledydd a chanddyn nhw hanes balch a dyfodol disglair.
“Ac wrth i ni wynebu’r cyfleoedd sydd o’n blaenau – y cyfleoedd sy’n codi o’n penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ac i gofleidio’r byd – gall ein buddiannau, ein huchelgais a’n gwerthoedd cyffredin ddod â ni at ein gilydd, a rhaid iddyn nhw wneud hynny.
“Dylen ni fod yn hyderus am y rôl sydd gan Gristnogaeth i’w chwarae ym mywydau pobol yn ein gwlad.
‘Rhyddid’
“A dylen ni drysori’r traddodiad cryf sydd gennym yn y wlad hon o oddefgarwch crefyddol a rhyddid barn.
“Rhaid i ni barhau i sicrhau bod pobol yn teimlo eu bod yn gallu trafod eu ffydd, ac mae hynny’n sicr yn cynnwys eu ffydd yng Nghrist.
“Rhaid i ni feddwl am y Cristnogion a’r lleiafrifoedd crefyddol o amgylch y byd nad ydyn nhw’n mwynhau’r un rhyddid, ond sy’n arddel eu crefydd yn gyfrinachol ac yn aml mewn ofn.”
‘Nostalgia a chenedlaetholdeb’
Ond mae arweinydd y Democratiaid Rhyddyfrydol, Tim Farron wedi cyfeirio at ffrae yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r helfa wyau Pasg, gan feirniadu nostalgia a chenedlaetholdeb.
“Dw i’n ofni mai’r hyn yr oedd y Prif Weinidog a phobol eraill yn gwylltio yn ei gylch e oedd meddwl fod yr Ymddiriedolaeth yn dileu rhywbeth cyffyrddus a thraddodiadol.
“Ac o ystyried ein bod ni’n troi’r cloc yn ôl i’r 1970au yn sgil Brexit (neu yn wir yr 1580au os ydyn ni’n mynd i ryfel â Sbaen), yna mae’n sicr nad nostalgia yw ymdeimlad y funud.
“Mae nostalgia a chenedlaetholdeb wedi dod yn danwydd ar gyfer brand afresymol o wleidyddiaeth ymosodol, y gwrthwyneb i’r hyn y mae rhyddfrydwr yn ei arddel.
“Dw i ddim am i’r neges Gristnogol gael ei dwyn gan y cenedlaetholwyr nostalgic. Yn yr un modd, ni ddylid ceisio manteisio ar Grist at eu dibenion eu hunain ychwaith.”
Ychwanegodd fod neges y Pasg yn un o dderbyn elfennau “rhyngwladol”.