Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban Llun: Andrew Cowan/Scottish Parliament/PA Wire
Mae Nicola Sturgeon wedi gwrthod unrhyw awgrym o etholiad cynnar yn yr Alban i ddatrys yr anghydfod rhyngddi a Theresa May ar ail refferendwm ar annibyniaeth.

Ers i senedd yr Alban bleidleisio o 69 i 59 o blaid gofyn caniatâd am refferendwm, ac i’r cais hwnnw’n cael ei wrthod yn llwyr gan lywodraeth Prydain, mae’r ddwy lywodraeth wedi bod benben â’i gilydd.

Dywed Prif Weinidog yr Alban y bydd yn amlinellu ei chamau nesaf i’r senedd ar ôl gwyliau’r Pasg.

“Nid yw agwedd Theresa May yn gynaliadwy yn wleidyddol,” meddai Nicola Sturgeon ar BBC Radio Scotland y bore yma.

“Os yw Senedd yr Alban o’r farn y dylai’r Alban gael dewis, nid ar hyn o bryd, ond pan mae’r amser yn iawn, pan fo eglurder ynghylch Brexit ac ynghylch annibyniaeth, yna fe ddylen ni gael dewis am ein dyfodol.”

‘Cyfrifoldeb’

Wrth wrthod y syniad o etholiad cynnar yn yr Alban, ychwanegodd:

“Fe ges i fy ethol yn Brif Weinidog lai na blwyddyn yn ôl. Mae gen i gyfrifoldeb i arwain y wlad hon.

“Rydym yn canolbwyntio ar gael twf yn ein heconomi a thrawsnewid addysg. Dyna’r pethau fydd yn dal i fod yn flaenoriaethau imi.

“Ond dw i’n meddwl hefyd ei bod hi’n iawn fod yr Alban, ar yr adeg iawn, yn cael dewis ein cyfeiriad fel gwlad yn y dyfodol, yn lle bod hyn yn cael ei orfodi arnom.”