Mae cais i geisio newid rheithfarn yn erbyn cyn-weithiwr mewn ysgol breswyl a gafodd yn euog am ymosod ar blant yn rhywiol wedi iddo ladd ei hun, wedi llwyddo.

Fe wnaeth Darren Turk, 54, grogi ei hun fis Mehefin diwethaf wrth iddo sefyll ei brawf am droseddau yn erbyn bechgyn rhwng 11 a 15 oed yng Ngholeg Frewen, Dwyrain Sussex, rhwng 1996 a 2002.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth rheithgor ei gael yn euog o 10 trosedd yn ymwneud â phlant ac yn ddieuog ar chwe chyfrif.

Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i ddyn sydd wedi marw ei gael yn euog o drosedd yn Lloegr ac fe feirniadodd ei deulu farnwr yr achos am ganiatáu i’r rheithgor roi ei rheithfarn ar ôl iddo farw.

Ddydd Iau, dywedodd tri barnwr o’r Llys Apêl fod y rheithfarnau wedi cael eu rhoi yn anghywir ac y dylai cael eu rhoi o’r neilltu, gan ddiddymu’r euogfarn.

Yn ystod yr achos, dywedodd un o farnwyr y Llys Apêl, Syr Brian Leveson, fod yr achos yn codi “mater pwysig iawn o fewn cyfraith droseddol.”

“Mae fy mab yn ddieuog”

Mae mam Darren Turk, Jasmine Botting, 76, wedi dweud yn y gorffennol ei bod yn “gwybod fel ffaith bod fy mab yn ddieuog.”

Roedd Darren Turk yn aelod o staff gofal yr ysgol a daeth yn bennaeth gofal, ond doedd e ddim yn athro. Ar gyfnod ei farwolaeth, roedd yn gweithio fel cynorthwyydd i drydanwr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr achwynwyr eu bod yn “parchu penderfyniad y llys.”

“Roedd yr apêl hon am bwynt yn y gyfraith ac nid er mwyn cliri enw Darren Turk,” ychwanegodd.